Cofnodion y Digwyddiad i Lansio Adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Anghydraddoldebau ym maes Canser – 08/06/2023

Manylion am y cyfarfod:

-          Beth: Lansio adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar anghydraddoldebau ym maes canser

-          Pryd: 14:00-15:30, dydd Iau 8 Mehefin 2023

-          Ble:  Cyfarfod Teams

Yn bresennol:

1.       Megan Cole

2.       Andy Glyde

3.       David Rees (Aelod o’r Senedd)

4.       Simon Scheeres

5.       Owen Jackson

6.       Jenni Macdougall

7.       Glenn Page

8.       Megan MacDonald

9.       Hannah Buckingham

10.   Mandy Edwards (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Treialon Clinigol)

11.   Thomas Brayford

12.   Paul Munim

13.   Hannah Wright

14.   Benedict Lejac

15.   Eleanor Jones

16.   Greg Pycroft

17.   Pamela Smith

18.   Nicholas Jones

19.   Hilary Webb

20.   Louise Carrington (Gweithrediaeth y GIG)

21.   Brandon Renard (Staff Cymorth Aelod o’r Senedd)

22.   Anthony Davies (Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – y Gyfarwyddiaeth Ansawdd a Nyrsio)

23.   Joanne Ferris

24.   Claire Birchall (Gweithrediaeth y GIG)

25.   Dawn Casey (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Gofal Cleifion a Diogelwch )

26.   Dr Lee Campbell

27.   Tracey Burke

28.   Julie Hepburn

29.   Joseph Woollcott

30.   Emily Hearne (Staff Cymorth Aelod o’r Senedd)

31.   Richard Adams (Felindre – Meddygon Ymgynghorol)

32.   Judi Rhys

33.   Lowri Griffiths

34.   Tom Crosby (Felindre – Meddygon Ymgynghorol)

35.   Chris Jones (Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - y Gyfarwyddiaeth Ansawdd a Nyrsio)

36.   Angela Harris

37.   Maddy Young

38.   Abigail Hayward (Gweithrediaeth y GIG)

39.   Chris Coslett (Gweithrediaeth y GIG)

40.   Kayleigh Chainey (Gweithrediaeth y GIG)

41.   Jennifer Sharp (Gweithrediaeth y GIG)

42.   Ellie Davies (Gweithrediaeth y GIG)

43.   Eryl Daniels (Gweithrediaeth y GIG)

44.   Gareth Popham (Gweithrediaeth y GIG)

45.   Hoang Tong

46.   Anna Hughes (Gweithrediaeth y GIG)

47.   Brenda Basweti (Gweithrediaeth y GIG)

48.   Alexandra Richards (Gweithrediaeth y GIG)

49.   Sian John (Gweithrediaeth y GIG)

50.   Sarah Macaulay-Nolan (Gweithrediaeth y GIG)

51.   Magda Golebiowska (Gweithrediaeth y GIG)

52.   Ryland Doyle (Staff Cymorth Aelod o’r Senedd)

53.   Clare Jordan (Gweithrediaeth y GIG)

54.   Ann Hosken (Gweithrediaeth y GIG)

55.   Stevie Davies (Gweithrediaeth y GIG)

56.   Wendy Roberts (Gweithrediaeth y GIG)

57.   Sarah Fry

58.   Dr Peter Henley

59.   Laura Munglani (Gweithrediaeth y GIG)

60.   Dominique Willson (Gweithrediaeth y GIG)

61.   Claire Wright (Gweithrediaeth y GIG)

 

Agorodd David Rees AS y cyfarfod

 

- Diolchodd i bawb a oedd yn gysylltiedig â’r gwaith o lunio’r adroddiad, gan gynnwys y bobl a roddodd tystiolaeth lafar, siaradwyr gwadd, y staff a anfonodd ymatebion i gysuro cyfranogwyr a staff Cancer Research UK (diolchwyd yn arbennig i Katie Till o CRUK, sydd ar absenoldeb mamolaeth ar hyn o bryd).

 

- Amlygwyd nad siop siarad yw'r grŵp trawsbleidiol, a’i fod yn lle i weithredu: cyflawni newid a gwthio agendâu.

 

- 'Mae anghydraddoldebau canser yn bodoli ar y llwybr, a rhaid inni fynd i'r afael â nhw. Bydd gwneud hynny'n sicrhau, ni waeth ble rydych chi'n byw, a beth bynnag fo'ch cefndir, dylai fod gennych hawl i gael yr un mynediad at driniaethau ag unrhyw un arall.’

- Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod angen mwy o ddata arnom i gael darlun llawn o anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Bydd hyn yn hyrwyddo ein dealltwriaeth o sut mae ffactorau economaidd a ffactorau eraill yn effeithio ar anghydraddoldebau canser ar hyd y llwybr.’

- 'Mae'n frawychus i mi fod cyfraddau marwolaeth 55 y cant yn uwch mewn poblogaethau difreintiedig nag yn y poblogaethau lleiaf difreintiedig.’

- Tynnwyd sylw at ffocws yr adroddiad, y canfyddiadau a'r argymhellion allweddol (ar gael yn y sleidiau/nodiadau siarad).

- Soniwyd am bwysigrwydd sgrinio amserol, a sut y gall hyn effeithio ar ganlyniadau iechyd yn nes ymlaen ar hyd y llwybr.

- Codwyd materion ynghylch yr angen i deithio ac ymrwymiadau gwaith sy’n effeithio ar allu person i fynd i apwyntiadau.

- Mynegwyd pryderon ynghylch defnyddio fêps, a sut y gallai hyn fod yn disodli ysmygu yng Nghymru.

-Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn gwerthfawrogi cynllun gwella canser y Llywodraeth a’r datganiad ansawdd canser yn fawr iawn, er ei fod bob amser yn herio’r ffaith bod angen cynllun gwella ar y datganiad ansawdd i ddweud wrthym sut y maent yn sicrhau’r ansawdd.

 

Chris Jones:

- Dywedodd y bydd yn rhaid edrych yn fanwl ar yr argymhellion….oherwydd roedd o’r farn fod llawer ohonynt yn faterion i'r GIG a Llywodraeth Cymru ymdrin â nhw gyda'i gilydd.

- Roedd o’r farn ei bod yn ddefnyddiol iawn i'r grŵp trawsbleidiol fod wedi diweddaru'r dystiolaeth a'n hatgoffa o'r mater hwn. Ychwanegodd ei fod yn gyfraniad pwysig at safbwynt polisi yng Nghymru.

- Croesawodd yr adroddiad, a dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn agored iddo.

- Dywedodd fod adroddiad y Prif Swyddog Meddygol yn codi llawer o'r un anghydraddoldebau y mae’r adroddiad hwn yn eu codi, yn enwedig o ran amddifadedd ac ysmygu. Mae llawer o'r adroddiad yn cyd-fynd ag argymhellion y Prif Swyddog Meddygol.

- Nododd fod pwyslais ar degwch yn natganiad ansawdd Llywodraeth Cymru: mae tegwch yn rhan annatod o’r system iechyd yng Nghymru. Mynegodd obaith y bydd yr adroddiad yn cael ei ddefnyddio i hybu tegwch.

- Tynnwyd sylw at bwysigrwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

 

Owen:

- Dywedodd fod pob un sy’n bresennol wedi darllen yr adroddiad ac wedi dod i gasgliadau tebyg. Ychwanegodd fod hyn yn arwydd o eglurder yr adroddiad, sy'n tynnu sylw at faterion brys y mae angen rhoi sylw iddynt ar fyrder.

- Mae'r adroddiad yn dangos bod pwy ydych chi, ble rydych chi'n byw a’ch cefndir yn effeithio ar eich siawns o gael canser a’ch siawns o oroesi, ac mae’r holl bethau hynny yn gwbl annerbyniol.

- Pwysleisiwyd y weledigaeth a nodwyd yn y strategaeth, sef bod pawb y mae canser yn effeithio arno yn byw bywyd hirach a gwell. Mae'n rhaid sicrhau bod pawb yn teimlo effeithio’r cynnydd a wnawn ar ganser.
- O ran ei rôl ef, yn gweithio ar bolisi ar gyfer yr elusen, dywedodd fod hynny'n golygu gweithio gyda Llywodraethau a systemau iechyd ledled y DU i sicrhau bod camau i arloesi mewn gwasanaethau canser yn cael eu mabwysiadu'n eang a bod rhwystrau sy'n bodoli yn cael eu goresgyn mewn ffordd systematig

- I fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, mae’n rhaid arloesi mewn ffordd sy'n gweithio i bawb.

- Un o gyfyngiadau'r adroddiad yw'r diffyg data sydd ar gael. Mae angen data arnom ar ethnigrwydd, oedran a rhyw i gael darlun llawn o anghydraddoldebau ym maes iechyd.

- Sgrinio'r ysgyfaint: Ers mis Medi diwethaf, mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, wedi argymell cyflwyno rhaglen sgrinio’r ysgyfaint ledled y DU, felly mae’r cynllun peilot arfaethedig yn ddiweddarach yn y flwyddyn yng Nghymru i’w groesawu. Gwyddom y gall sgrinio’r ysgyfaint wella bywydau a chanlyniadau – sy’n arbennig o berthnasol mewn ardaloedd mwy difreintiedig lle mae mwy o bobl yn ysmygu. Gobeithir na fydd y cynllun peilot yng Nghymru yn arafu’r broses ehangach, gan fod sgrinio’r ysgyfaint yn argymhelliad ar gyfer y DU gyfan.

- Mae pobl yn gorfod gwneud dewisiadau cwbl erchyll rhwng eu triniaethau a pharhau â’u gwaith neu eu cyfrifoldebau gofalu presennol.

- Mae Cymru ar y blaen o gymharu â Lloegr o ran strategaethau hirdymor. Byddwn yn sicr yn ceisio adeiladu ar y wybodaeth sydd gennym am yr hyn sy’n gweithio’n dda mewn gwledydd eraill, ac yn gwneud yr argymhellion perthnasol i Lywodraeth y DU. 

- Mae darn o waith yn mynd rhagddo ar faniffesto ar gyfer ymchwil a gofal canser, sydd wedi'i amseru i gyd-fynd ag etholiad cyffredinol nesaf y DU. Mae’n canolbwyntio ar gynllun i lunio polisïau ymarferol y gellir eu gweithredu i drechu canser yn gynt.

 

 

Trafodaeth:

David Rees: I ba raddau y mae’r bobl berthnasol (hynny yw, gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd) yn ymwybodol o’r ddyletswydd ansawdd?

Chris Jones: Pan fyddaf yn cyfarfod â byrddau gweithredol, byddaf bob amser yn gofyn iddynt sut y maent yn gweithredu'r ddyletswydd ansawdd, a byddaf bob amser yn cael ateb eithaf cynhwysfawr ynghylch rhai o'r newidiadau sefydliadol y maent yn eu gwneud a’r trefniadau y maent yn dechrau eu gwneud i gasglu data ac adrodd yn ôl. Nid wyf yn siŵr i ba raddau y mae’r wybodaeth yn treiddio drwy’r sefydliadau, ond mae'n ymwneud yn bennaf â’r broses o wneud penderfyniadau.

 

Tom Crosby:

Felly, mae pwynt yn codi ynghylch mynnu ymateb, fel y dywedodd Chris, nid dim ond gan Lywodraeth Cymru ond gan Weithrediaeth y GIG, sy’n mynd drwy broses o newid ar hyn o bryd. O ganlyniad i hyn, ni rhagwelir y bydd ymatebion cynnar yn dod i law, ond rydym yn disgwyl i’r Llywodraeth oruchwylio’r gwaith ac rydym yn disgwyl i’r gwasanaeth gael cynllun sydd wirioneddol yn ymdrin â rhai o’r materion rydym wedi'u trafod heddiw. Wedyn, gallwn drafod sut rydym yn gweithredu'r cynllun hwnnw oherwydd ein bod ni oll yn cytuno nad yw'r sefyllfa yn un hawdd ei datrys.

 

Sgrinio'r Ysgyfaint: Mae’n rhaid trafod y gwiriadau iechyd ysgyfaint mewn rhagor o fanylder. Efallai bod yn rhaid i ni drafod y mater hwn â Llywodraeth Cymru. Mynegwyd barn fod angen ymateb gan Lywodraeth Cymru. Cafwyd argymhelliad gan y pwyllgor sgrinio cenedlaethol y dylai’r gwiriadau hyn ddigwydd, ac ar hyn o bryd nid yw’r cynllun peilot yn peilota a ddylem fod yn sgrinio ai peidio, ac mae angen y wybodaeth hon arnom i helpu i lywio penderfyniad gan Lywodraeth Cymru.

 

Data: Datrysiadau digidol – cytunwyd yn llwyr â'r angen am wybodaeth. Rydym yn eithaf da am gasglu gwybodaeth am godau post, ac wedyn gallwn ddehongli rhai o’r manylion cysylltiedig, fel ysgolion, lefelau amddifadedd ac ati. Fodd bynnag, nid ydym yn casglu data am ffactorau eraill ar hyn o bryd, megis ethnigrwydd. Nid ydym yn casglu’r wybodaeth honno fel mater o drefn. Felly, hoffwn wybod sut yr ydym yn mynd i wneud pethau’n wahanol yn y dyfodol i sicrhau atebolrwydd.

 

Materion rhanbarthol: Mae bron yn sicr y bydd yr atebion y tu hwnt i lefel bwrdd iechyd yn unig, ac mae ansicrwydd yn parhau o ran yr atebolrwydd ar lefel ranbarthol, ac rwy’n amau y bydd yn rhaid gwneud rhagor o waith ar y mater hwn. Sut all un bwrdd iechyd fod yn gyfrifol am sicrhau nad oes amrywiad o 20 pwynt yn y canlyniadau o fewn y rhanbarth? Ai dim ond mater i’r dyfodol yw hwn?

 

Datrysiadau digidol: Rydym yn mynd i gynnig gwasanaethau iechyd mewn ffordd wahanol yn y dyfodol. Mae'n rhaid i ni ddechrau nawr drwy alluogi gwasanaethau digidol i sicrhau nad yw'r prosiect a'r rhaglen dan sylw, sy'n amlwg yn mynd i gael eu cyflwyno'n gyflym, yn rhoi poblogaethau penodol o dan anfantais.

 

Dyfodol iechyd: y gwir amdani yw ein bod yn mynd i ddarparu gwasanaethau iechyd mewn ffordd wahanol iawn yn y dyfodol. Bydd yn ofynnol inni ddefnyddio apiau sy'n ein cefnogi ar hyd llwybrau a rhaglenni, ac ati. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw'r rhaglen waith honno'n gadael pobl ar eu holau.

fy nghais sylfaenol fyddai ein bod yn gofyn am gynllun cyflawni penodol i ymateb i’r amrywiaeth annerbyniol mewn canlyniadau ar hyn o bryd.